Home

Darparwr Gwasanaethau Iaith Cyfeillgar a Phrofiadol

Os ydych chi’n chwilio am ddarparwr gwasanaethau iaith dibynadwy, cyfeillgar a phrofiadol, rydych chi wedi dod i’r lle cywir. Rydym yn cynnig ymagwedd hyblyg a phersonol tuag at eich gofynion iaith. Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn gweithio’n galed i feithrin perthnasoedd gwerthfawr gyda’n cwsmeriaid a’n cyflenwyr.

Rydym yn Falch o Gynnig Ystod Lawn o Wasanaethau Iaith

Mae BLS yn hollol barod i reoli unrhyw brosiect amlieithog, o’r syniad cyntaf a’r dylunio cychwynnol hyd at ei gyflwyno, mewn bron unrhyw fformat. Gall ein tîm cyfeillgar, proffesiynol gynorthwyo pawb, o unigolion i gorfforaethau mawr. Rydym bellach yn gallu darparu ystod eang o wasanaethau yn ogystal ag ymagwedd wedi’i theilwra i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Cyfieithu

Golygu a Phrawfddarllen

Cyfieithiad Ardystiedig

Lleoleiddio Saesneg

Cyfieithu ar y Pryd

Hyfforddiant Iaith

Isdeitlo a Thrawsgrifio

Trosleisio

Cyhoeddi Bwrdd Gwaith

Argraffu a Fformatau Hygyrch

Gwasanaethau Rheoli Prosiect

Ein Gwasanaethau Cyfieithu Ardystiedig

Os oes angen cyfieithiad o ddogfen arnoch at ddibenion swyddogol, er enghraifft pasbort, tystysgrif geni neu dystysgrif priodas, gallwn gyfieithu ac ardystio eich dogfen fel y gallwch ei chyflwyno i’r awdurdod neu’r sefydliad perthnasol.

Rydym wedi cyfieithu ac ardystio’n swyddogol miloedd o ddogfennau yn llwyddiannus, a bydd ein tîm arbenigol yn sicrhau bod eich dogfennau yn cael eu hardystio’n gywir ar gyfer eu defnydd bwriadedig.

Cyfieithu o Ansawdd Uchel

Gall dod o hyd i ddarparwr gwasanaethau cyfieithu addas fod yn llethol os nad ydych chi’n ieithydd neu os nad oes gennych lawer o wybodaeth am y diwydiant cyfieithu. Yn Business Language Services Ltd. (BLS), rydym yn deall hyn a byddwn yn ymdrechu bob amser yn i wneud y broses mor ddidrafferth ac esmwyth â phosibl. Ers ein sefydlu ym 1990, rydym wedi ennill cyfoeth o brofiad ac arbenigedd ym mhob maes cyfieithu, felly rydych chi’n ddiogel iawn yn ymddiried ynom.

Discover more

Gwasanaethau Iaith ar Gyfer Bron Pob Iaith Sy’n Cael ei Defnyddio Heddiw

P’un a ydych yn fusnes neu’n unigolyn, nid hawdd fydd dod o hyd i ddarparwr sy’n gallu cynnig gwasanaethau mewn cynifer o gyfuniadau iaith â ni yn Business Language Services. Ni waeth o ble yn y byd y daw eich dogfen, gallwn bron bob amser helpu gyda’r cyfieithiad.

Newyddion a Blogiau

View All