Ein Hanes
Sefydlwyd Business Language Services Ltd. (BLS) ym 1990 yn nhref farchnad hanesyddol Y Fenni ac mae bellach yn un o ddarparwyr gwasanaethau iaith arweiniol Cymru. I ddechrau, roedd y cwmni’n canolbwyntio ar gyflwyno rhaglenni hyfforddiant iaith wedi’u teilwra i unigolion a chwmnïau ledled Cymru. Enillodd ansawdd a natur bwrpasol ein pecynnau hyfforddi gydnabyddiaeth yn gyflym iawn, gan ddenu cynrychiolwyr o’r DU a thramor i geisio’n harbenigedd.
Wrth i’r galw am ein gwasanaethau dyfu, cydnabuom yr angen i ehangu ein darpariaeth o wasanaethau iaith, gan ychwanegu cyfieithu a chyfieithu ar y pryd. Ffynnodd y canghennau newydd hyn o’r busnes, gan ategu ein rhaglenni hyfforddi iaith a chyfrannu at ein llwyddiant parhaus.
Ym mis Mawrth 2010, diolch i’n twf parhaus a galw cynyddol am wasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a hyfforddiant, gwnaethom benderfyniad strategol i adleoli ein prif swyddfa i Gaerdydd, prifddinas fywiog Cymru. Caniataodd y symudiad hwn i ni wasanaethu ein sylfaen cwsmeriaid cynyddol yn well a pharhau i fod ar flaen y diwydiant gwasanaethau iaith.
Aeth BLS o nerth i nerth dros ddegawd yn The Cottages yng Nghaerdydd, ac adlewyrchwyd gwaith caled ein tîm ymroddgar mewn twf trawiadol o un flwyddyn i’r llall. Caniataodd y llwyddiant hwn i ni ehangu ein gweithlu dawnus, ac amlygodd yr angen am weithle mwy pwrpasol a modern a fyddai’n cyd-fynd â’n cynlluniau deinamig ar gyfer twf a datblygiad yn y dyfodol.
Roeddem wrth ein bodd i symud i’n swyddfa bwrpasol newydd ddechrau 2020. Wedi’i ddylunio’n ofalus i gyd-fynd â’n hunion anghenion, mae ein safle o’r radd flaenaf yn cynrychioli pennod newydd gyffrous yn hanes BLS. Mewn lleoliad gwych yng nghanol dinas Caerdydd, yn agos at yr Amgueddfa Genedlaethol, mae ein swyddfa’n hawdd ei chyrraedd i’n cwsmeriaid, gan sicrhau hyd yn oed mwy o gyfleustra a hygyrchedd, a hyd yn oed yn cynnig parcio ar y safle.
Mae ein swyddfa newydd yn destament perffaith i’n twf a’n harbenigedd. Rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau iaith eithriadol ac yn parhau i fod ar flaen y gad o ran technoleg newydd a newidiadau yn y diwydiant. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a hyfforddiant iaith o’r radd flaenaf i’n cleientiaid gwerthfawr yng Nghymru a ledled y byd. Mae Business Language Services Ltd. yn edrych ymlaen at gychwyn ar ddyfodol llewyrchus a ffyniannus.
Ein Tîm
Mae pob aelod o’n tîm yn angerddol dros iaith, ac rydym yn darparu cyfieithu mewnol ar gyfer llawer o ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys y Gymraeg. Dros y blynyddoedd, rydym wedi datblygu rhwydwaith helaeth o gyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd a thiwtoriaid cymwys, dibynadwy a hynod brofiadol ym mhob maes arbenigedd. Rydym yn falch o ddweud bod llawer o’n hieithyddion arbenigol wedi bod gyda ni ers i ni gychwyn allan dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae ein twf parhaus wedi ein galluogi i ehangu ein tîm dawnus o Reolwyr Prosiect a chyfieithwyr mewnol ac ychwanegu Cyfarwyddwr Gweithrediadau sy’n cefnogi’r Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Uwch Dîm Rheoli.