AI a Chyfieithu Peirianyddol

Cyflwyniad i AI a Chyfieithu Peirianyddol

Dechreuodd peiriannau Cyfieithu Peirianyddol fel Google Translate ennill poblogrwydd tua’r un amser ag offer CAT (Cyfieithu gyda Chymorth Cyfrifiadur), ond roedd dibynadwyedd ac ansawdd yr allbwn yn weddol wael. Nid yw hynny i ddweud eu bod yn gwbl ddiwerth; roedd ganddynt eu lle yn sicr. Mae’r dechnoleg wedi gwella’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar yn dilyn datblygiadau mewn technoleg AI, ond rydym yn credu na fydd y dechnoleg erioed yn disodli ieithyddion dynol yn llawn. Mae offer cyfieithu wedi’u pweru gan AI yn tynnu adnoddau o filiynau o ffynonellau gwahanol. Yn debyg i Gof Cyfieithu, mae’r offer hyn yn defnyddio’r testun a gyfieithwyd yn eu corpysau i gynhyrchu cyfieithiadau ar unwaith. Y gwahaniaeth allweddol yw nad yw’r adnoddau a ddefnyddiwyd gan ddarparwyr cyfieithu AI wedi cael eu gwirio a’u cymeradwyo yn flaenorol. Mae’r AI yn defnyddio rhannau o destun wedi’i gyfieithu a rheolau ieithyddol i roi cyfieithiadau at ei gilydd ar gyfer ei ddefnyddwyr.

Defnyddio Cyfieithu Peirianyddol ac AI, yn y Ffordd Gywir

Fel arfer nid yw’n bosib i ddefnyddiwr roi dogfen drwy offeryn Cyfieithu Peirianyddol a derbyn cynnyrch cyflwynadwy. Mae’r ymennydd dynol yn rhyfeddol o gymhleth a hyd yn oed mewn ysgrifen, gallwn sylwi ar giwiau cymdeithasol ac is-destun yn gymharol hawdd. Pe bawn i’n ysgrifennu ‘I drink from glasses because it’s better for the environment,’ gallai AI gyfieithu hyn i’r Gymraeg fel ‘rwy’n yfed o sbectol.’ Un enghraifft yn unig yw hwn; dychmygwch geisio cyfieithu dogfen gyfan gyda phroblemau tebyg yn codi drwyddi draw. Dyna pam y dylai ieithydd proffesiynol olygu eich dogfennau bob amser. Yn BLS, rydym yn cynnig gwasanaeth MTPE (Golygu Cyfieithu Peirianyddol) gyda dwy lefel wahanol o wasanaeth – AI Ysgafn ac AI+.

Lefelau Gwasanaeth AI

AI Ysgafn

  • Cyfieithiad gan ddefnyddio ein meddalwedd AI sy’n arwain y diwydiant
  • Golygu arbenigol gan ieithydd proffesiynol
  • Proses Sicrwydd Ansawdd BLS
  • Rheolwr Prosiect mewnol pwrpasol

Mae ‘AI Ysgafn’ yn ddelfrydol ar gyfer cynnwys syml neu feintiau mawr o destun sydd eu hangen at ddibenion dealltwriaeth neu wybodaeth yn unig. Mae’n defnyddio offer cyfieithu awtomataidd sy’n arwain y diwydiant i gynhyrchu cyfieithiadau’n gyflym, sydd wedyn yn cael eu golygu gan ieithydd brodorol arbenigol. Mae’r gwasanaeth hwn orau pan fydd angen cyfieithiadau arnoch yn gyflym a bod gennych gyllideb gyfyngedig, ond ni argymhellir y lefel hon o wasanaeth ar gyfer cynnwys i’w gyhoeddi. Byddem yn argymell prawfddarllen gan ail ieithydd ar gyfer hyn.

AI+

  • Cyfieithiad gan ddefnyddio ein meddalwedd AI sy’n arwain y diwydiant
  • Golygu arbenigol gan ieithydd proffesiynol
  • Prawfddarllen gan ail ieithydd proffesiynol
  • Proses Sicrwydd Ansawdd BLS
  • Rheolwr Prosiect mewnol pwrpasol

Gan adeiladu ar sylfaen ‘AI Ysgafn’, mae ‘AI+’ yn cynnwys cam prawfddarllen dynol ychwanegol i wella’r ansawdd a sicrhau cyfieithiad mwy graenus. Er bod y lefel hon o wasanaeth yn cynnwys cam adolygu ychwanegol i warantu ansawdd, mae’r cyfieithu cychwynnol yn cael ei gwblhau gan ein hoffer AI. Os byddai’n well gennych beidio â chael unrhyw fewnbwn AI yn eich prosiect, ystyriwch ein gwasanaeth Cyfieithu+.

Get a Quote

Beth yw Manteision ein Datrysiadau AI?

Cynhyrchiant

Mae cyfieithu’ch dogfen gydag AI i ddechrau ac yna ei golygu’n arbenigol gan ieithydd dynol yn cyflymu’r broses yn sylweddol ar gyfer prosiectau mwy gyda therfynau amser caeth.

Cyllideb

Mae costau cyfieithu yn is ar gyfer ein datrysiadau AI gan nad yw’r cam cyfieithu cychwynnol yn cynnwys bodau dynol. Mae hyn yn berffaith os oes gennych gyllideb gyfyngedig ar gyfer eich prosiect.

Effeithlonrwydd

Bydd y peiriant AI yn dysgu o bob prosiect ac yn gweithio ochr yn ochr â’n hoffer Cof Cyfieithu. Mae hyn yn golygu wrth i’r dechnoleg wella, y gellir trosglwyddo arbedion amser a chost ychwanegol i chi, gan y bydd angen llai o amser ar ein hieithyddion i olygu’ch cynnwys.

Er nad yw’r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer pob prosiect, yn dibynnu ar y cynnwys a’ch anghenion, gall arbed amser ac arian i chi. I ddarganfod a allai ein datrysiadau wedi’u pweru gan AI fod yn opsiwn da i chi, cysylltwch â ni ar in**@*************************co.uk neu cael dyfynbris.

Cwestiynau Cyffredin AI a Chyfieithu Peirianyddol

Er y bod defnydd i offer megis Google Translated, nid ydynt yn darparu’r un allbwn o ansawdd uchel a gynhyrchir gan ein technoleg AI bwrpasol, sydd wedyn yn cael ei olygu gan ieithydd arbenigol. Mae unrhyw gynnwys sy’n cael ei fewnbynnu i offer mynediad agored megis Google Translate yn cael ei rannu’n awtomatig â darparwr yr offeryn, sy’n golygu nad yw’ch data bellach yn gyfrinachol ac yn ddiogel.

Mae ein technoleg AI yn cefnogi ystod eang o ieithoedd mwyaf cyffredin y byd. Mae’n bosib y bydd rhai ieithoedd na allwn eu cefnogi eto. Cysylltwch â ni a byddwn yn gallu cadarnhau’r gwahanol lefelau o wasanaeth sydd ar gael ar gyfer yr iaith dan sylw.

Bydd yr amser i gwblhau’ch prosiect yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys hyd y ddogfen, ei chymhlethdod ac unrhyw ofynion penodol a allai fod gennych. Fel canllaw bras, gall ein gwasanaethau cyfieithu wedi’u pweru gan AI gynnig amser dychwelyd tua 30-50% yn gyflymach na’n gwasanaeth safonol Cyfieithu+ (TEP).

Gall costau eich prosiect amrywio ar sail nifer o ffactorau megis y pâr iaith, hyd y ddogfen a’r pwnc. Mae costau ein datrysiadau wedi’u pweru gan AI yn nodweddiadol tua 20-40% yn is nag ar gyfer ein gwasanaethau safonol ac rydym bob amser yn ymdrechu i gynnig prisiau cystadleuol a thryloyw tra’n darparu cyfieithiadau cywir o ansawdd uchel bob amser. Ewch draw i’n ffurflen dyfynbris i gael pris cywir ar gyfer eich prosiect.