Cyflwyniad
Er mwyn sicrhau ansawdd cyson yn y gwasanaeth a ddarparwn, mae BLS wedi’i ardystio i safon ryngwladol ISO 9001:2015 ar gyfer rheoli ansawdd, yr ydym yn cael ein harchwilio’n flynyddol ar ei chyfer. Mae hon yn safon rheoli ansawdd deg cymal sy’n cwmpasu saith egwyddor ansawdd allweddol: canolbwyntio ar gwsmeriaid, arweinyddiaeth, ymgysylltu â phobl, dull proses, gwelliant parhaus, gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a rheoli perthnasoedd. Rydym yn gweithredu yn unol â’n system rheoli ansawdd i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a chyflawni’r holl ofynion rheoleiddiol.


Beth yw Manteision Gweithio gyda Darparwr Gwasanaethau Iaith gydad Ardystiad ISO 9001:2015?
Mae ardystiad ISO 9001 o fudd i ni fel cwmni ac i’n cleientiaid, trwy fwy o effeithlonrwydd, gwelliant parhaus, sicrhau ansawdd, ymagwedd ffeithiol at wneud penderfyniadau, gwell cadw cofnodion, ansawdd gwasanaeth a pherthynas â chyflenwyr a chleientiaid. Mae’n sicrhau cysondeb yn ein prosesau fel y gallwch chi, fel ein cleient, fod yn sicr y bydd ein gwasanaethau’n diwallu’ch anghenion.
Sicrhau Ansawdd
Mae ISO 9001:2015 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau weithredu system rheoli ansawdd, gan gadw at brotocolau llym i sicrhau rhagoriaeth eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyfieithu, mae’r safon hon yn arbennig o arwyddocaol gan ei bod yn gwarantu cywirdeb, cysondeb a phriodoldeb diwylliannol eu cyflwyniadau. Mae cyflawni’r gofynion hyn yn hollbwysig gan fod gan gleientiaid ddisgwyliadau hynod uchel am gyfieithiadau o’r ansawdd gorau sy’n cyd-fynd yn berffaith â’u hamcanion arfaethedig. Mae gwallau mewn cyfieithiadau yn adlewyrchu’n wael ar BLS yn ogystal â dogfennaeth y cwsmeriaid; diolch i effeithlonrwydd gwell gyda ffocws clir ar ansawdd a’n cwsmeriaid, rydym yn gallu canfod a nodi problemau mewn da bryd a chymryd hyd yn oed mwy o gamau i’w hosgoi yn y dyfodol. Mae ein dull cyfieithu aml-haenog yn ein helpu i gael gwared ar wallau cyn y cyflwyniad terfynol. O safbwynt y cleientiaid, mae ardystiad ISO 9001:2015 yn rhoi ymdeimlad o hyder a thawelwch meddwl, gan eu sicrhau bod y darparwr gwasanaeth cyfieithu y maent yn ei ddewis ar gyfer eu prosiect yn gwbl ymroddedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd heb ei ail. Daw’r sicrwydd hwn yn arbennig o hanfodol i gleientiaid sydd angen cyfieithiadau o ddogfennau hanfodol, megis contractau cyfreithiol, deunyddiau marchnata neu lawlyfrau technegol.
Gwybodaeth Arbenigol
Drwy gynnal egwyddorion ISO 9001:2015 yn BLS, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddefnyddio ieithyddion arbenigol hynod fedrus ar gyfer pob prosiect. Mae’r dewis bwriadol hwn yn cynnig manteision sylweddol i’n cwsmeriaid, a all fod yn dawel eu meddwl bod eu cynnwys gwerthfawr yn cael ei drin gan weithwyr proffesiynol profiadol sydd â’r wybodaeth arbenigol sydd ei hangen i drin naws a chymhlethdodau’r pwnc dan sylw. Mae ein dewis gofalus a’n prosesau hyfforddi cynhwysfawr yn sicrhau bod ein hieithyddion wedi’u harfogi’n briodol i gyflwyno cyfieithiadau o ansawdd eithriadol sy’n bodloni gofynion unigryw ein cwsmeriaid a safonau’r diwydiant yn union. Mae’r ymrwymiad hwn i ansawdd yn golygu y gall ein cleientiaid fod â hyder llwyr yn ein gwasanaethau. Rhaid i wybodaeth arbenigol a sefydliadol ddod yn gyntaf gan uwch reolwyr, y tîm cyfan, a’r diwylliant yr ydym wedi’i ddatblygu dros y blynyddoedd; tîm BLS yw ein hased gorau bob amser. Rydym yn ffodus iawn bod gennym dîm sy’n hynod gymwys gyda sylfaen wybodaeth helaeth; trwy gydol eu cyflogaeth, mae ein hethos busnes ac ymddygiad sefydliadol yn dod yn rhan o sut mae pawb yn gweithio. Yn ogystal, rydym bob amser yn ceisio helpu i ddatblygu arbenigedd unigolyn fel ei fod yn ategu aelodau eraill o staff yn ogystal â’n nodau fel cwmni.
Cwestiynau Cyffredin ISO
Ydy, mae ardystiad ISO 9001:2015 yn cynnig sicrwydd y bydd eich dogfennau busnes hanfodol yn cael eu cyfieithu’n gywir. Mae ardystiad blynyddol yn dangos ein bod wedi ymrwymo i gynnal a gwella ein system a phrosesau rheoli ansawdd llym ar draws ein busnes. Mae cadw at safonau ISO 9001:2015 yn sicrhau y bydd eich dogfennau’n cael eu cyfieithu gan ieithyddion sydd â’r cymwysterau perthnasol a gwybodaeth bynciol arbenigol. Mae ein holl gyfieithiadau yn destun gwerthusiadau ansawdd trylwyr yn unol â safonau mwyaf llym y diwydiant.
Wrth gwrs, mae cyfrinachedd a diogelwch eich data yn hollbwysig i ni. Mae gennym fesurau cadarn ar waith fel bod eich gwybodaeth sensitif yn cael ei thrin yn ddiogel. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys rheolaethau mynediad llym, sianeli cyfathrebu wedi’u hamgryptio a datrysiadau storio diogel. Yn ogystal, mae contractau staff a pholisïau cwmni yn cynnwys cymalau ar gyfrinachedd a pheidio â datgelu fel arfer, ac mae pob ieithydd sy’n gweithio gyda ni yn llofnodi cytundeb peidio â datgelu wrth ymuno â’n tîm. Gallwch ymddiried y bydd Business Language Services yn parchu cyfrinachedd a diogelwch eich data gwerthfawr.
Mae gennym broses gwyno ddiffiniedig i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon am ansawdd ein gwasanaethau. Os ydych byth yn anfodlon gyda’r gwaith rydym wedi’i gyflwyno, rydym yn eich annog i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn ymchwilio i’r broblem ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol i fynd i’r afael â’ch pryderon ac osgoi ailadrodd y broblem yn y dyfodol. Mae ein hymrwymiad i’ch boddhad fel ein cleient yn ganolog i bopeth a wnawn, a hoffem weithio’n agos gyda chi i unioni unrhyw broblemau. Mae unrhyw adborth y gallwch ei roi i ni yn amhrisiadwy gan ei fod yn ein helpu i wella ein gwasanaethau. Rydym i gyd yn ymroddedig i sicrhau eich bod yn derbyn y lefel o wasanaeth yr ydych yn ei ddisgwyl.