Gwasanaethau iaith arbenigol ar gyfer cyfathrebu byd-eang llwyddiannus
Yn Business Language Services, rydym wedi bod yn darparu cyfieithiadau dibynadwy o’r ansawdd uchaf i gwmnïau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ers dros 30 mlynedd. O isdeitlo i gyfieithu marchnata, cyfieithu ar y pryd i gyhoeddi bwrdd gwaith, rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau iaith i fusnesau a mentrau, gan eich galluogi i gyfathrebu’n effeithiol â’ch cleientiaid a’ch cydweithwyr ar draws y byd.
Mae ein tîm o ieithyddion a rheolwyr prosiect i gyd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae ein holl gyfieithwyr yn cyfieithu i’w mamiaith yn unig, a dim ond mewn meysydd pwnc y maent yn brofiadol ynddynt, gan sicrhau bod eu holl gyfieithiadau yn briodol o ran diwylliant a chyd-destun. Rydym hefyd yn defnyddio technoleg sy’n arwain y diwydiant, gan gynnwys offer cyfieithu â chymorth cyfrifiadur (CAT), systemau cyfieithu Deallusrwydd Artiffisial a pheirianyddol, rhaglenni cyhoeddi bwrdd gwaith arbenigol, a llawer mwy.

Ein Gwasanaethau Iaith i Fusnesau
Gallwn gynorthwyo eich busnes gydag ystod eang o brosiectau sy’n ymwneud ag iaith.
Dyma rai o’n harbenigeddau:
Gwasanaethu Ystod o Ddiwydiannau
Mae ein hieithyddion yn arbenigo mewn sectorau amrywiol, o gyfieithu technegol a meddygol i gynnwys marchnata creadigol,
gan sicrhau bod eich deunyddiau amlieithog wedi’u teilwra i’ch cynulleidfa gydag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ansawdd.
Prisiau ac amseroedd dychwelyd
Mae prisiau ac amseroedd dychwelyd yn dibynnu ar sawl ffactor. Byddwn bob amser yn cadarnhau’ch union ofynion ar y cychwyn ac yn darparu dyfynbris personol sy’n manylu ar gostau ac amseroedd dychwelyd eich prosiect.
Y tri phrif ffactor sy’n dylanwadu ar gostau ac amseroedd dychwelyd yw:
- Nifer yr ieithoedd
- Cyfrif geiriau (testun) neu hyd (sain/sideo)
- Gwasanaeth(au) y gofynnwyd amdanynt
Mewn un diwrnod gwaith, gall ein hieithyddion gyfieithu, golygu a phrawfddarllen tua 1,500–2,000 gairfel arfer, er gall hyn amrywio yn dibynnu ar gymhlethdod y testun. Os oes angen sawl iaith, bydd hyn yn cynyddu’r amser sydd ei angen ychydig, gan tua un diwrnod fel arfer.
Ar gyfer isdeitlo, yn gyffredinol gallwch luosi hyd y fideo â 10 i amcangyfrif yr amser y bydd yn ei gymryd i’w isdeitlo – er enghraifft, bydd fideo 10 munud yn cymryd tua 100 munud i’w isdeitlo’n llawn. Mae amseroedd dychwelyd ar gyfer gwasanaethau megis trawsgrifio a chyhoeddi bwrdd gwaith yn amrywio yn dibynnu ar gymhlethdod y dasg.
Defnyddiwch ein ffurflen dyfynbris ar-lein neu siaradwch ag aelod o’r tîm i gael dyfynbris sydd wedi’i deilwra at eich anghenion.


Rydym yn darparu gwasanaethau iaith ar gyfer bron bob iaith
Mae gennym ni ieithyddion arbenigol ar gyfer bron pob iaith a ddefnyddir heddiw – o Arabeg i Zwlw, a phopeth yn y canol.
Ein 10 iaith fwyaf poblogaidd ar gyfer cyfieithiadau ardystiedig yw:

Aelodaethau ac Achrediadau
Rydym yn aelodau o sefydliadau proffesiynol amrywiol yn y diwydiant cyfieithu a thu hwnt, gan gynnwys:
Aelod Achrededig yr Association of Translation Companies (ATC) – Mae’r ATC yn un o dri chorff y diwydiant cyfieithu yn y DU ac mae ein statws fel aelod achrededig yn ein galluogi i ardystio cyfieithiadau dogfennau cyfreithiol swyddogol, megis tystysgrifau geni a marwolaeth, dogfennau priodi ac ysgaru, a llawer mwy. Aelod Corfforaethol yr Institute of Translation and Interpreting (ITI) – Mae’r ITI yn un arall o dri chorff diwydiant cyfieithu’r DU, y mae arferion pob un ohonynt yn cael eu cymeradwyo gan y lleill. Ardystiad ISO 9001:2015 – mae ein hardystiad Rheoli Ansawdd
ISO o fudd i ni fel cwmni a’n cleientiaid, trwy well effeithlonrwydd, gwelliant parhaus, sicrhau ansawdd, ymagwedd ffeithiol at wneud penderfyniadau, gwell cadw cofnodion, ansawdd gwasanaeth a pherthnasau â chyflenwyr a chleientiaid. Mae’n sicrhau cysondeb yn ein prosesau fel y gallwch chi, fel ein cleient, fod yn sicr y bydd ein gwasanaethau’n diwallu eich anghenion.