Ydych chi’n Ddarparwr Gwasanaethau Iaith (LSP) sy’n chwilio am dîm cost-effeithiol, dibynadwy i’ch helpu i reoli’ch anghenion iaith?
Ymddiriedir yn ein tîm rheoli prosiect mewnol i ddarparu pecyn gwasanaeth llawn i Ddarparwyr Gwasanaethau Iaith ledled y byd. Mae ein tîm yn brofiadol iawn mewn rheoli prosiectau ym meysydd meddygaeth a gwyddorau bywyd, y gyfraith, busnes, cyllid, peirianneg, llenyddiaeth, marchnata, meddalwedd a llawer mwy.
Mae ein hieithyddion yn arbenigwyr yn eu meysydd ac yn ieithyddion talentog gydag angerdd dros eu hieithoedd.
Mae gennym ardystiad ISO 9001:2015, sy’n rhywbeth yr ydym yn ymfalchïo’n arbennig ynddo gan ei fod yn gwarantu cywirdeb, cysondeb a phriodoldeb diwylliannol ein gwaith.
Yn syml, gallwch fod yn siŵr bod eich prosiect mewn dwylo da.


Pam Dewis Business Language Services?
Tîm Rheoli Prosiectau Mewnol Cyfeillgar a Dibynadwy
Cyfieithwyr Mewnol Dawnus
Gwybodaeth Sector Arbenigol
Prisiau Cystadleuol
Cysylltwch â ni nawr i ddysgu rhagor am sut gallwn helpu.