Pam Ein Dewis Ni?

33
Mlynedd yn y diwydiant

4.9/5
Sgôr adolygiadau

400+
O barau iaith

Pam Ddylech Chi Ddewis BLS?

Gall dod o hyd i ddarparwr gwasanaethau iaith addas for yn her os nad ydych chi’n ieithydd neu os nad oes gennych lawer o wybodaeth am y diwydiant. Rydym yn deall hyn yn Business Language Services Ltd. (BLS) a byddwn bob amser yn ymdrechu i wneud y broses mor llyfn a didrafferth â phosib. Ers sefydlu BLS ym 1990, rydym wedi ennill cyfoeth o brofiad ac arbenigedd ym mhob maes cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, a gwasanaethau iaith eraill, felly gallwch ymddiried ynom ni i ddarparu’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch, gyda’r ansawdd rydych chi’n ei ddisgwyl.

Yn gyntaf oll, nid robotiaid mohonom ni! Yn BLS, rydyn ni oll yn gyfieithwyr ac yn ieithyddion. Rydym felly mewn sefyllfa unigryw o freintiedig i drin eich ceisiadau gyda gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol. Credwn fod cyfieithu yn ymwneud â chodi pontydd dealltwriaeth rhwng ieithoedd a diwylliannau trwy gyfleu ystyr, yn hytrach na chyfieithu gair wrth air yn unig. Mae ein harbenigedd o fudd i’n cleientiaid ar bob cam o’r broses, o ddadansoddi dogfennau ar ddechrau’r cam dyfynbrisio ar gyfer cyfieithiad, i gydgysylltu ag ieithyddion a chleientiaid pan fydd ymholiadau, hyd at fwrw llygad arbenigol dros y cynnyrch terfynol.

Contact Us

Mae BLS yn cynnig y sicrwydd bod ein gwasanaethau iaith yn cael eu gwneud gan ieithyddion proffesiynol profiadol sy’n gweithio o fewn eu meysydd pwnc arbenigol ac i mewn i’w mamiaith. Mae hyn yn sicrhau y bydd eich cynnwys yn briodol yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol ar gyfer y farchnad y’i bwriadwyd ar ei chyfer.

Gallwch fod yn sicr bod ein hieithyddion yn bodloni ein gofynion craidd o brofiad iaith a chyfieithu, gwybodaeth pwnc (sy’n hanfodol), sgil, cymhelliant a dibynadwyedd. Mae ein hieithyddion, sydd wedi’u lleoli ledled y byd, yn cael eu dewis a’u hasesu’n ofalus ar sail eu cymwysterau a’u profiad, ac mae eu gwaith ar gyfer BLS yn cael ei werthuso’n rheolaidd, felly byddwn bob amser yn ymdrechu i ddewis yr ieithydd mwyaf addas ar gyfer eich prosiect. Mae’r ymagwedd gaeth hon yn rhan annatod o’n system rheoli ansawdd ISO 9001.

Yn BLS, mae’n holl waith gyfieithu yn cael ei brawfddarllen gan ail ieithydd annibynnol. Rydym yn neilltuo Rheolwr Prosiect i bob tasg, a fydd yn cydgysylltu â chi a’n hieithyddion i sicrhau eu bod yn deall eich gofynion yn llawn a bod y cynnyrch terfynol yn cael ei gyflwyno ar amser, i’ch boddhad llawn.

Mae BLS yn gweithio gyda phob un o’r prif fathau o ffeiliau a fformatau meddalwedd, ac rydym yn buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf yn y diwydiant cyfieithu. Mae hyn yn ein galluogi i reoli terminoleg sy’n benodol i’r diwydiant, sicrhau cysondeb ymhlith eich dogfennau a dod o hyd i ‘lais’ sy’n iawn i’ch cwmni neu gynnyrch. Dysgwch ragor am ein defnydd o dechnoleg yma.

Ers 1990, mae Business Language Services Ltd. wedi bod yn helpu cwmnïau i chwalu rhwystrau ieithyddol a diwylliannol ac mae wedi ennill enw da fel un o ddarparwyr gwasanaethau iaith arweiniol y DU i fusnesau ledled y byd, gyda rhestr drawiadol o gleientiaid ac ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol sydd wedi’i deilwra i ofynion unigol pob cleient.

Rydym wedi llwyddo trwy wrando ar a gweithio gyda’n cwsmeriaid, sy’n mynnu’n gynyddol yr ansawdd, yr ymatebolrwydd, y proffesiynoldeb a’r gefnogaeth y gall darparwr gwasanaethau iaith mawr yn unig eu darparu. Rydym yn ystyried ein perthynasau hirdymor gyda’n cleientiaid yn arwydd ein bod yn darparu’r gwasanaeth a’r ansawdd sydd eu hangen arnynt – ac rydym yn ddiolchgar eu bod yn lledaenu’r gair am BLS i eraill. Dysgwch ragor am ein cleientiaid yma.