Symleiddio’r Broses
Yn Business Language Services, rydym yn deall bod gan ein cleientiaid amserlenni prysur iawn, a gallai gofyn am gyfieithiadau fod yn un peth arall ar restr hir o bethau i’w gwneud. Mae ein tîm bob amser yn chwilio am ffyrdd o symleiddio prosesau a gwneud pethau’n haws i’n cleientiaid, ond heb golli’r dull personol rydym yn adnabyddus amdano.


Beth mae’r Porth Cleientiaid yn ei Gynnig?
Dyma rai o nodweddion a buddion allweddol ein Porth Cleientiaid:
Porth canolog i gyflwyno cynnwys i’w gyfieithu. Derbyn dyfynbris, symud ymlaen a’r archeb ac olrhain cynnig, i gyd mewn un lle.
Mae ein rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio yn eich galluogi i uwchlwytho ffeiliau yn hawdd, nodi gofynion y prosiect a darparu unrhyw gyfarwyddiadau perthnasol.
Storio diogel ac amgryptio data er tawelwch meddwl.
Derbyn hysbysiadau pan fydd eich prosiect yn barod i’w lawrlwytho.
Cyfathrebu clir trwy’r swyddogaeth negeseuo.
Mynediad hawdd at hanes y prosiect.
Diogelwch Data
Dylai Porth Cleient dibynadwy flaenoriaethu diogelwch data ac amgryptio, gan ddiogelu gwybodaeth a deunyddiau prosiect sensitif cleientiaid.
Os oes gennych ddiddordeb mewn lleihau baich gweinyddol eich prosiectau cyfieithu, cysylltwch â ni a bydd un o’r tîm yn eich sefydlu ar y porth.
Cwestiynau Cyffredin Porth Cleientiaid
Ydy, mae diogelwch eich data yn bwysig iawn i ni yn BLS. Mae’r porth cleientiaid yn defnyddio protocolau amgryptio safonau’r diwydiant i ddiogelu eich data a’ch ffeiliau sensitif. Gallwch fod yn hyderus bod eich gwybodaeth yn cael ei storio a’i throsglwyddo’n ddiogel.
Gallwn ddarparu unrhyw hyfforddiant sydd ei angen i ddefnyddio’n porth cleientiaid. Byddwn yn darparu cyfarwyddiadau manwl pan fyddwch yn derbyn mynediad at eich cyfrif am y tro cyntaf a gallwn hefyd ddarparu dogfennaeth y gallwch ei rannu ac unrhyw ddefnyddwyr eraill y porth. Bydd ein tîm bob amser wrth law i gynorthwyo gydag unrhyw gwestiynau neu anawsterau technegol.
Gallwch, bydd ein porth cleientiaid yn cadw hanes o’ch prosiectau blaenorol yn awtomatig, a gallwch gael mynediad atynt unrhyw bryd. Os byddai’n well gennych ein bod yn cael gwared ar y wybodaeth hon ar ôl cwblhau prosiect neu ar unrhyw adeg wedi hynny, rhowch wybod i ni a byddwn yn hapus i wneud hynny.