Technoleg Cof Cyfieithu

Beth yw Technoleg Cof Cyfieithu?

Yn ei hanfod, mae Cof Cyfieithu (TM) yn archifo eich testun ffynhonnell (yn ei iaith wreiddiol) ochr yn ochr â’i destun targed cyfatebol (y cynnwys a gyfieithwyd). Wrth i chi gychwyn ar brosiect newydd, mae’r Cof Cyfieithu yn adfer cynnwys a gyfieithwyd yn flaenorol neu debyg iawn, gan ei nodi fel ‘cyfatebiad’. Mae sawl nodwedd uwch ar gael ond yn gysyniadol, banc cyfieithu yw TM y gallwch dynnu’ch cyfieithiadau a gadwyd ohono a’u defnyddio.

Mae cofion cyfieithu wedi bod yn ganolog i ddatblygiad offer CAT (Cyfieithu gyda Chymorth Cyfrifiadur), sef cymwysiadau meddalwedd soffistigedig a gynlluniwyd i wella effeithlonrwydd a chywirdeb prosesau cyfieithu. Mae’r offer hyn yn cynorthwyo cyfieithwyr proffesiynol trwy ddarparu nodweddion megis Cof Cyfieithu, rheoli terminoleg ac alinio testunau ffynhonnell a tharged. Mae offer CAT yn galluogi cyfieithwyr i weithio’n fwy effeithiol trwy storio cynnwys a gyfieithwyd yn flaenorol, awgrymu cyfieithiadau posibl a chynnal terminoleg gyson trwy gydol prosiectau. Mae’r offer hyn yn symleiddio’r llif gwaith cyfieithu, gan arwain at well ansawdd, amseroedd dychwelyd byrrach ac arbedion o ran cost.

Pam ydyn ni’n defnyddio Cofion Cyfieithu?

Cost-effeithlonrwydd

Trwy ddefnyddio Cofion Cyfieithu, mae’n bosib y gallwn arbed llawer o arian i chi. Mae’r dechnoleg yn lleihau’r angen am gyfieithu deunydd ailadroddus o’r dechrau. Byddwn yn dadansoddi’ch dogfennau am ailadrodd a chyfatebiadau i gynnwys blaenorol yn ystod ein proses dyfynbrisio rhad ac am ddim heb unrhyw rwymedigaeth. Lle bynnag y bo’n bosib, byddwn yn ychwanegu gostyngiad canrannol at eich dyfynbris i sicrhau nad ydych byth yn gordalu am gyfieithu!

Arbedion Amser

Bob tro y bydd eich cynnwys wedi’i gyfieithu yn cael ei ychwanegu at y TM, mae’r cof yn dod yn fwy cywir a phenodol i chi. Mae hyn yn arbed amser i’n hieithyddion ac yn y pen draw yn sicrhau amser dychwelyd cyflymach ar gyfer eich prosiectau, oherwydd bydd unrhyw ddeunydd sydd yr un peth neu’n debyg i gynnwys a gyfieithwyd yn flaenorol yn cael ei adfer yn awtomatig o’r cof a’i ddefnyddio ar gyfer eich prosiect newydd.

Cysondeb

Mae gan bob cleient ei arddull unigryw ei hun a’i ddewisiadau terminoleg sector-benodol. Mae’r TM yn sicrhau cysondeb ar draws prosiectau, ni waeth pa ieithydd a gyflogir i weithio ar y dasg, gan wella ansawdd cyffredinol eu gwaith.

Cwestiynau Cyffredin Technoleg Cof Cyfieithu

Nac ydy, mae Cof Cyfieithu a Chyfieithu Peirianyddol yn ddau beth gwahanol. Mae Cyfieithu Peirianyddol yn cyfeirio at gyfieithu awtomataidd gan gyfrifiadur, tra bod Cof Cyfieithu yn cyfeirio at offeryn sy’n stori cyfieithiadau a ysgrifennwyd gan fodau dynol i’w defnyddio yn y dyfodol. Dysgwch ragor am ein gwasanaethau Cyfieithu Peirianyddol yma.

Ydyn, mae gan yr holl ddarparwyr offer CAT adnabyddus fesurau diogelwch data helaeth ar waith, a bydd eich cyfieithiadau bob amser yn cael eu storio a’u rheoli mewn modd diogel.

Nac oes, dydy hyn ddim yn angenrheidiol. Er y gallai darparu cyfieithiadau blaenorol wella effeithlonrwydd technoleg Cof Cyfieithu, gallwn ddechrau adeiladu cof newydd heb gynnwys blaenorol, a fydd yn sicrhau arbedion amser a chost o’r cychwyn cyntaf.

Oes, mae offer CAT a Chofion Cyfieithu yn amlbwrpas a gallant weithio gydag ystod eang o ieithoedd a mathau o gynnwys, boed yn gontractau cyfreithiol, deunydd marchnata ar gyfer eich gwefan neu ryngwynebau defnyddwyr meddalwedd.