Beth yw System Rheoli Cyfieithu?
Yn syml, meddalwedd yw System Rheoli Cyfieithu (TMS) sy’n gallu awtomeiddio rhai o’r tasgau mwy ailadroddus a llafurus i wneud y broses cyfieithu mor effeithlon â phosib. Mae’n offeryn pwerus wedi’i gynllunio i reoli prosiectau ieithyddol o’r dechrau i’r diwedd. Mae’n galluogi BLS i reoli cynnwys amlieithyddol yn effeithlon, gan sicrhau cywirdeb a chysondeb beth bynnag fo maint a chwmpas y prosiect. Mae TMS yn cynnig manteision lluosog ac yn ein helpu i gyflawni’r canlyniadau gorau posib i’n cleientiaid.




Beth yw Manteision Defnyddio System Rheoli Cyfieithu?
Integreiddio
Mae gweithio gyda TMS yn ein galluogi i integreiddio’n ddi-dor ag offer eraill o safonau diwydiant a rheoli agweddau amrywiol ar y llif gwaith, megis echdynnu cynnwys, aseinio cyfieithu, olrhain prosiectau a bilio. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Protemos, sydd wedi ein galluogi i addasu’r profiad rheoli prosiect a theilwra ein gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion ein cleientiaid. Gydag offer CAT integredig, megis Smartcat, gallwn hefyd drosoli cyfieithiadau yn y gorffennol ar gyfer cleientiaid sy’n dychwelyd, sy’n cynnig potensial ar gyfer arbedion sylweddol yn y tymor hir.
Effeithlonrwydd
Mae defnyddio TMS cadarn yn ein galluogi i weithio’n fwy effeithlon, o’r cam dyfynbrisio cychwynnol hyd at gwblhau a bilio. Mae TMS yn ein helpu i reoli pob agwedd ar brosiect, gan ganiatáu mwy o amser i ni ddarparu ar gyfer anghenion ein cleientiaid tra’n cadw costau’n isel, a adlewyrchir yn ein prisiau. Unwaith y bydd prosiect wedi’i greu yn ein system rheoli cyfieithu, gall rheolwr prosiect weld yr holl wybodaeth berthnasol mewn un lle, gwneud newidiadau, diweddaru’r prosiect yn ôl yr angen a gweld hanes llawn y prosiect. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i reolwyr prosiect ac mae cael y cyfan mewn un lle yn sicrhau cwblhau prosiect yn llwyddiannus ac yn ddi-dor.
Awtomeiddio
Trwy awtomeiddio tasgau ailadroddus a llafurol, mae systemau rheoli cyfieithu yn dileu’r risg o gamgymeriadau dynol ac yn arbed amser, sydd hefyd yn cadw costau’n isel. Mae awtomeiddio yn rhan annatod o TMS, oherwydd gall dogfennau megis dyfynbrisiau, anfonebau, adroddiadau ac archebion prynu gael eu cynhyrchu’n awtomatig o ddata’r system. Mae TMS hefyd yn cynnig nodweddion megis hysbysiadau e-bost awtomataidd ynghylch prosiectau newydd, diweddariadau i brosiectau presennol a nodiadau atgoffa ynghylch terfynau amser. Mae trosi arian cyfred a diweddaru cyfraddau cyfnewid hefyd yn gwbl awtomataidd, gan ddileu unrhyw risg o gamgymeriadau dynol a rhyddhau’r tîm rheoli prosiectau i ganolbwyntio ar ein cleientiaid a darparu’r gwasanaeth o ansawdd uchel yr ydym yn falch o’i gynnig yn BLS.
Ansawdd
Mae defnyddio TMS yn ein galluogi i gadw golwg ar adnoddau ar gyfer pob cleient unigol. Mae defnyddio’r cof cyfieithu, cronfa termau a chanllaw arddull cywir ar gyfer cleientiaid yn hanfodol i sicrhau bod cyfieithiadau cyson o ansawdd uchel yn cael eu cynhyrchu bob tro. Gellir defnyddio’r system hefyd i gadw golwg ar ba ieithyddion sydd wedi gweithio ar ddogfennau cleient o’r blaen. Mae defnyddio ieithydd sy’n gyfarwydd â’r cynnwys yn sicrhau ansawdd trwy gadw arddull yr ysgrifennu yn gyson a lleihau nifer yr ymholiadau i’r cleient.
Cwestiynau Cyffredin System Rheoli Cyfieithu
Wrth gwrs – gallwn gynnig mynediad trwy ein Porth Cleientiaid, sy’n eich galluogi i ofyn am ddyfynbrisiau, dechrau prosiectau newydd, anfon dogfennau’n ddiogel, olrhain cynnydd a chyfathrebu gyda’ch Rheolwr Prosiect pwrpasol drwyddi draw. Cysylltwch i ddysgu rhagor am eich opsiynauo find out more about your options.
Ydy, mae gennym ni yn BLS a’r darparwr TMS mesurau diogelwch cadarn ar waith i ddiogelu’ch data. Mae’r rhain yn cynnwys amgryptio, rheolaethau mynediad, archwiliadau diogelwch a chydymffurfiaeth â safonau’r diwydiant. Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch data.